Dw i'n saer coed o Ynys Môn, yn gwneud pethau o bren, pethau mae pobl yn eu caru a'u defnyddio bob dydd. Ar y dechrau, darnau bach i deulu a ffrindiau roeddwn yn eu gwneud ond erbyn hyn mae'r gwaith wedi tyfu i fod yn fusnes bach yn creu amrywiol gomisiynau i gwsmeriaid ar draws Gogledd Orllewin Cymru, boed yn giât gardd, cwt ieir, neu rhywbeth i'r tŷ fel fframiau lluniau, stondinau monitor, silffoedd arnofiol, drysau cypyrddau cegin, stôl neu fwrdd goffi, Dw i'n mwynhau'r her o droi'ch syniadau yn bethau deniadol cadarn wedi'u gwneud â llaw.
Dyma rai o'r pethau rwyf wedi'u cyflawni. (Cliciwch i ehangu'r llun)































Os oes gennych unrhyw prosiectau sydd eisiau eu gnweud, anfonwch neges i Osian ap Sion.